Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 4 Chwefror 2015

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(245)v3

 

<AI1>

1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5684 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi na fu unrhyw welliant sylweddol yn nifer y teithwyr sy'n teithio drwy Faes Awyr Caerdydd ers i Lywodraeth Cymru gymryd perchnogaeth o'r maes awyr.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran datblygu llwybrau newydd o'r maes awyr a chynyddu gweithrediadau cludo nwyddau;

 

b) cyhoeddi prisiad marchnad cyfredol ar gyfer Maes Awyr Caerdydd; ac

 

c) cyhoeddi strategaeth glir a chynhwysfawr er budd teithwyr, busnesau a threthdalwyr sy'n cynnwys cynigion ar gyfer llwybrau hir ac yn archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd, gan gynnwys dychwelyd y maes awyr i berchnogaeth breifat.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi y bydd gwelliant yn nifer y teithwyr sy'n teithio drwy Faes Awyr Caerdydd yn y dyfodol yn dibynnu ar gefnogaeth llywodraeth a rheolaeth fasnachol gadarn.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dod yn berchennog ar Faes Awyr Caerdydd heb baratoi achos busnes llawn dros wneud hynny yn gyntaf.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda'i gilydd i ddatganoli toll teithiau awyr pell i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cyhoeddi strategaeth twf clir a chynhwysfawr, gan gynnwys cynigion ar gyfer llwybrau pell;

 

b) archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd, gan gynnwys modelau buddsoddi cyhoeddus a phreifat; ac

 

c) sicrhau datganoli toll teithwyr awyr er mwyn cynhyrchu llwybrau ychwanegol, cynyddu nifer y teithwyr a rhoi hwb i economi Cymru.

</AI3>

<AI4>

4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5681 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio symiau canlyniadol Barnett blaenorol gan Lywodraeth y DU i roi'r gallu i awdurdodau lleol rewi'r dreth gyngor i breswylwyr yng Nghymru;

 

2. Yn nodi ymhellach y byddai teuluoedd sy'n talu band D y dreth gyngor yng Nghymru £149.31 y flwyddyn yn gyfoethocach pe bai Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i rewi'r dreth gyngor ym mhob blwyddyn ers 2010; 

 

3. Yn gresynu at y ffaith bod biliau treth gyngor wedi cynyddu dros 150% yng Nghymru ers 1997/98, ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r fath wedi rhoi pwysau gormodol ar aelwydydd sydd o dan bwysau; a

 

4. Yn credu bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wario arian cyhoeddus gyda gofal a phwyll, er mwyn sicrhau bod cyfraddau treth gyngor yn cael eu gosod mor isel â phosibl i breswylwyr a bod cyfraddau treth gyngor yn darparu gwerth am arian i'r trethdalwr.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

 

Yn nodi'r sefyllfa ariannol anodd sy'n wynebu llywodraeth leol ac effaith mesurau llymder Llywodraeth y DU ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

 

Yn credu mai dyletswydd gyntaf awdurdodau lleol yn sgil y toriad 3.4% ar gyfartaledd yn y setliad refeniw llywodraeth leol yw diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

</AI4>

<AI5>

5 Dadl Plaid Cymru (60 munud)

NDM5686 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod Cymru yn hanesyddol wedi gwneud cyfraniad sylweddol i bortffolio ynni'r DU.

 

2. Yn gresynu at y darpariaethau ym Mil Seilwaith Llywodraeth y DU a fydd yn caniatáu i gwmnïau ffracio ddrilio o dan gartrefi yng Nghymru heb ganiatâd gan berchnogion yr eiddo.

 

3. Yn credu y dylai ynni gael ei ddatganoli'n llawn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac y dylai Llywodraeth Cymru gael y pŵer i atal ffracio.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei phŵer i atal ffracio rhag digwydd yng Nghymru hyd nes y profir bod ffracio yn ddiogel yng nghyd-destun yr amgylchedd a iechyd cyhoeddus.

 

Mae'r Bil Seilwaith ar gael ar wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/infrastructure.html

(Saesneg yn unig)

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

 

2. Yn gresynu at y ffaith y gwrthodwyd gwelliant trawsbleidiol i Fil Seilwaith Llywodraeth y DU i weithredu moratoriwm ar ffracio am ddwy flynedd a hanner tra bod risgiau'n cael eu hasesu.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu argymhellion Comisiwn Silk ar gyfer datganoli ynni a thrwyddedu olew ar y tir ac echdynnu nwy i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag argymhelliad ar gyfer yr Alban gan Gomisiwn Smith.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal ffracio rhag digwydd yng Nghymru drwy gyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol newydd yn nodi'r safonau amgylcheddol ac iechyd a ddisgwylir o weithrediadau ffracio a chyfarwyddo awdurdodau cynllunio i wrthod ceisiadau ar gyfer gweithrediadau ffracio oni chaiff ei brofi i fod yn ddiogel ar gyfer yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd.

 

[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]

 

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd cymunedau yn elwa o gronfa gymunedol sylweddol, os bydd echdynnu nwy siâl yn digwydd.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw am ddatganoli cymhwysedd ar gyfer prosiectau ynni hyd at 100MW, ac i Lywodraeth Cymru adeiladu capasiti ychwanegol ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.

 

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cymunedau lleol yn cael dweud eu dweud wrth benderfynu a ydynt eisiau cefnogi cynlluniau i archwilio nwy siâl yn eu hardal.

 

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canllawiau cynllunio cyfredol ar waith mewn perthynas ag echdynnu nwy siâl.

 

Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyllid ac arbenigedd digonol i allu ymateb i drwyddedau i ddrilio am nwy siâl a sicrhau bod cyflenwadau dŵr daear a dŵr gwastraff yn cael eu monitro'n briodol i sicrhau eu bod yn ddiogel ac na achosir risg sylweddol i iechyd pobl neu'r amgylchedd.

 

Gwelliant 7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil sy'n ymwneud â'r meini prawf pellter diogel gofynnol cyn cynnal gwaith ffracio yn agos i dai preswyl neu oddi tanynt.

</AI5>

<AI6>

6 Cyfnod pleidleisio 

</AI6>

<AI7>

7 Dadl Fer (30 munud)

NDM5685 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynlluniau pensiynau diffoddwyr tân: sicrhau chwarae teg

 

Sicrhau nad yw cyn-ddiffoddwyr tân ar eu colled o ganlyniad i'r cynllun pensiwn diffoddwyr tân newydd.

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Chwefror 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>